Myfyrwyr

Ochr yn ochr â’ch astudiaethau yn yr ystafell ddosbarth, gallwch wella eich cyflogadwyedd drwy gael profiad ymarferol yn y diwydiant adeiladu.

Byddwch yn cael profiad gwaith ar y safle gyda chyflogwyr a chontractwyr lleol. Mae hyn yn helpu i sicrhau eich bod yn barod ar gyfer safleoedd ar ôl cwblhau eich astudiaethau.

Mae gennym rwydwaith o gyflogwyr sydd ag amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth i fyfyrwyr sy’n gorffen eu diploma.

Byddwn yn darparu’r cyfarpar diogelu personol sydd ei angen ar bob myfyriwr i weithio’n ddiogel ar y safle gan gynnwys:

  • hetiau caled,
  • gogls,
  • festiau gwelededd uchel,
  • menig, a
  • bŵts safonau BSI.

Gosodwch y sylfeini ar gyfer eich gyrfa. Cofrestrwch nawr.