Ynglŷn â’r Academi

Mae’r Academi Adeiladu Ar y Safle yn gynllun hyfforddiant, profiad gwaith a chyflogaeth tair blynedd a ariennir gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) ac a ddarperir gan Wasanaeth Cynghori i Mewn i Waith Cyngor Caerdydd. Rydym yn seiliedig ar safle Datblygu Preswyl Wates yn Nhredelerch, Caerdydd.

Pan fyddwch yn cwblhau eich hyfforddiant, ein nod yw rhoi profiad, prentisiaeth a chyfleoedd cyflogaeth ar y safle i chi ar draws de-ddwyrain Cymru.

I fod yn gymwys i gael ein cefnogaeth mae’n rhaid i chi fod yn:

  • Ddi-waith, neu’n
  • Newid gyrfa o sector arall, neu’n
  • Fyfyriwr Diploma Adeiladu
  • 16+ oed (dim terfyn oedran uchaf)
  • Byw yn yr awdurdodau lleol canlynol:

    – Blaenau Gwent,
    – Pen-y-bont ar Ogwr,
    – Caerffili,
    – Caerdydd,
    – Merthyr,
    – Trefynwy,
    – Castell-nedd a Phort Talbot,
    – Casnewydd,
    – Rhondda Cynon Taf,
    – Torfaen,
    – Bro Morgannwg.

Onsite Construction Academy
Onsite Construction Academy
Onsite Construction Academy

Rydym yn gweithio gyda’r grwpiau canlynol:

Ceiswyr Gwaith

I helpu i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy drwy ein partneriaeth â chyflogwyr a chontractwyr lleol.

Myfyrwyr addysg bellach

Darparu profiad ymarferol i ategu astudiaethau yn yr ystafell ddosbarth.

Atgyfeirwyr

Sicrhau’r deilliannau gorau i ddysgwyr.

Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan bartneriaid gan gynnwys:

  • awdurdodau lleol,
  • sefydliadau cyflogaeth y llywodraeth,
  • prosiectau cymorth cyflogadwyedd,
  • cymdeithasau tai, a
  • cholegau addysg bellach

Cyflogwyr

Datblygu cynlluniau hyfforddiant a chyfleoedd lleoliad gwaith i ddarpar weithwyr.

Onsite Construction Academy