Onsite Construction Academy

Ceiswyr Gwaith

Mae Academi Adeiladu ar y Safle yn croesawu ceiswyr gwaith, newidwyr gyrfa a’r rhai sy’n dychwelyd i’r diwydiant.

Mae ein cwrs hyfforddiant adeiladu am ddim yn cynnwys:

  • sgiliau ail-gyflogi,
  • tystysgrifau Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) ar draws ystod o ddisgyblaethau,
  • Iechyd a Diogelwch mewn Amgylchedd Adeiladu Lefel 1, a
  • Cherdyn CSCS (Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu)

Ar ôl hyfforddiant, rydym yn cysylltu ceiswyr gwaith â chyflogwyr i gynnig cyfleoedd cyflogaeth a phrentisiaethau ar draws de-ddwyrain Cymru.

Onsite Construction Academy

Myfyrwyr Diploma Adeiladu

Rydym yn cefnogi myfyrwyr addysg bellach i gael profiad gwaith ymarferol i ategu dysgu diploma adeiladu.

Rydym yn gweithio gyda cholegau yn ne-ddwyrain Cymru i drefnu lleoliadau profiad ar y safle i fyfyrwyr yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth i’r rhai sy’n cwblhau eu hastudiaethau.

Onsite Construction Academy

Atgyfeirwyr

Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan ystod eang o sefydliadau ar draws de-ddwyrain Cymru gan gynnwys:

  • awdurdodau lleol,
  • sefydliadau cyflogaeth y llywodraeth,
  • prosiectau cymorth cyflogadwyedd,
  • cymdeithasau tai, a
  • cholegau addysg bellach.

Rydym yn gweithio’n agos gyda’r sefydliadau hyn drwy gydol taith y dysgwr i rannu cynnydd a thrafod materion, gan sicrhau’r deilliannau gorau posibl i bob dysgwr.

Onsite Construction Academy

Cyflogwyr

Rydym yn gweithio’n agos gyda phrif gontractwyr ac asiantaethau recriwtio ar draws de-ddwyrain Cymru i roi profiad a chyfleoedd cyflogaeth i ddysgwyr ar y safle i gwrdd â gofynion y sector.

Mae cyflogwyr yn chwarae rhan weithredol wrth ardystio dysgwyr fel rhai sy’n barod ar gyfer safleoedd a chyflogaeth, gan sicrhau eu bod yn gymwys i ddechrau eu gyrfaoedd ym maes adeiladu.

Os ydych chi’n gyflogwr, gallech gynnig cyfle i rywun ddatblygu ei yrfa yn y maes adeiladu.

Eisiau gwybod mwy?

Rydym yn cynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith o safon ar safleoedd gydag ystod eang o gontractwyr i roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddatblygu eich gyrfa.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael profiad newydd ar safle a datblygu eich sgiliau, cysylltwch â ni.


    Pwy ydyn ni

    Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i gynnig amrywiaeth o rolau ym maes adeiladu a’n nod yw rhoi cyfleoedd i geiswyr gwaith a myfyrwyr ehangu ar eu sgiliau a’u profiad.

    Ein rhaglen

    Os ydych am ehangu eich set o sgiliau ac ennill cymwysterau i weithio ar safleoedd adeiladu, gallwn gynnig arweiniad a hyfforddiant i chi.