Cyflogwyr

Mae cyflogwyr yn rhan bwysig o raglen Academi Adeiladu ar y Safle. Maent yn helpu i ddarparu profiad gwaith, prentisiaethau a chyfleoedd gwaith i’n dysgwyr.

Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i ddatblygu hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar y bwlch sgiliau yn y sector adeiladu. Bydd cyflogwyr sy’n gweithio gyda ni yn gallu cael gafael ar weithwyr sy’n barod ar gyfer safleoedd erbyn diwedd y rhaglen.

Onsite Construction Academy

Rydym am ehangu’r rhwydwaith o gyflogwyr sy’n ymwneud â’n rhaglen.

Allech chi gefnogi dysgwyr lleol i uwchsgilio eich gweithlu? Cysylltwch â ni heddiw.